Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Hydref 2017

Amser: 08.30 - 08.52
 


Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AC (Cadeirydd)

Jane Hutt AC

Paul Davies AC

Rhun ap Iorwerth AC

Gareth Bennett AC

Staff y Pwyllgor:

Aled Elwyn Jones (Clerc)

Eraill yn bresennol

Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd

Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.

 

</AI2>

<AI3>

3       Trefn busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

·         Byddai'r Cyfnod Pleidleisio ar ôl yr eitem olaf o fusnes. 

Dydd Mercher

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 25 Hydref 2017 -

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Cymunedau yn Gyntaf – yr hyn a ddysgwyd (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Amserlen ar gyfer ystyried Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru)

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio Bil Iechyd y Cyhoedd (Pris Isaf am Alcohol) (Cymru) i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.

 

·         Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.

</AI8>

<AI9>

5       Y Pwyllgor Busnes

</AI9>

<AI10>

5.1   Hynt y gwaith o adolygu’r Rheolau Sefydlog

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal adolygiadau o Gwestiynau Llafar y Cynulliad a chanllawiau ar gynnal trafodion y Cynulliad fel rhan o'i raglen waith weithdrefnol, yn ychwanegol at y deg adolygiad arall a oedd ar y gweill a nodwyd eisoes.

</AI10>

<AI11>

6       Pwyllgorau

</AI11>

<AI12>

6.1   Effaith ymadawiad Aelod â grŵp gwleidyddol

Trafododd y Rheolwyr Busnes y materion a godwyd yn y papur ond ni allent gytuno ar unrhyw benderfyniadau.

O ran dyrannu Cadeiryddion, dywedodd y Llywydd nad yw'r sefyllfa bresennol yn cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a bod yn rhaid ei datrys.  Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes roi mwy o ystyriaeth i sut y gellid gwneud hyn mewn modd sy'n cydymffurfio â'r Rheolau Sefydlog, a byddai'n rhoi'r papur ar Agenda'r wythnos nesaf.

</AI12>

<AI13>

7       Y Cyfarfod Llawn

</AI13>

<AI14>

7.1   Papur i'w nodi - Datganiad ar y Gyllideb Ddrafft, treialu dull newydd

Nododd y Rheolwyr Busnes y papur.  Nododd y Llywydd y byddai'r Cadeirydd yn sicrhau bod cymaint o Aelodau Cynulliad â phosibl yn cael eu galw, ac y byddai'r eitem yn debygol o gymryd mwy o amser na'r hyn oed wedi'i neilltuo. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i newid yr amser a neilltuwyd i'r eitem i 90 munud.

</AI14>

<AI15>

8       Deddfwriaeth

</AI15>

<AI16>

8.1   Papurau i'w nodi - llythyrau at Gadeiryddion y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethiol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ynghylch Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyrau.

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>